Astudio drwy ddarllen ac ysgrifennu

Os yw’n llawer gwell gennych ddysgu drwy ddarllen ac ysgrifennu, dylech ddefnyddio’r cyfan neu rai o’r dulliau canlynol:

Mewnbwn

er mwyn derbyn yr wybodaeth
  • rhestrau
  • penawdau
  • geiriaduron
  • rhestrau o dermau
  • diffiniadau
  • taflenni gwybodaeth
  • darllen – llyfrgell
  • nodiadau (air am air, fel arfer)
  • athrawon sy’n trin geiriau’n ddeheuig, ac yn rhoi llawer o wybodaeth yn eu brawddegau a’u nodiadau
  • traethodau
  • llawlyfrau (cyfrifiadureg a labordai)

SWOT

er mwyn gwneud pecyn hawdd ei ddysgu
  • ysgrifennu’r geiriau drosodd a throsodd
  • darllen eich nodiadau (yn dawel) drosodd a throsodd
  • ailysgrifennu’r syniadau a’r egwyddorion yn eich geiriau eich hun
  • trosi adweithiau, effeithiau, diagramau, siartiau a diagramau llif yn eiriau
  • dychmygu mai cwestiynau amlddewis yw eich rhestrau, a mynd ati i wahaniaethu rhyngddynt
  • Newid eich ‘nodiadau’ yn becyn hawdd ei ddysgu, drwy grynhoi’r nodiadau a’u lleihau 3:1

Allbwn

er mwyn gwneud yn dda yn yr arholiad
  • ysgrifennu atebion i gwestiynau arholiad
  • ymarfer drwy ddefnyddio cwestiynau amlddewis
  • ysgrifennu cyflwyniad, paragraffau a diweddglo
  • paratoi rhestrau (a, b, c, ch, 1, 2, 3, 4)
  • trefnu eich geiriau’n byramidiau a phwyntiau