Dulliau astudio aml-fodd

Os oes gennych fwy nag un hoff ddull dysgu, rydych yn y mwyafrif! Mae rhwng 50% a 70% o unrhyw boblogaeth yn yr un sefyllfa â chi.

Mae hoff aml-foddau astudio’n ddiddorol ac yn gallu amrywio’n fawr. Er enghraifft, hwyrach bod gennych ddau hoff ddull (gweledol a chlywedol, neu ddarllen a cinesthetig). Neu hwyrach fod gennych dri hoff ddull dysgu (gweledol / clywedol / ysgrifennu). Nid oes gan rai pobl yr un hoff ddull dysgu; mae eu sgoriau hwy yr un fath, fwy neu lai, ar gyfer y pedwar modd. Er enghraifft, dyma oedd sgôr un fyfyrwraig: gweledol = 9, clywedol = 9, darllen/ysgrifennu = 9, cinesthetig = 9. Dywedodd ei bod yn addasu ei modd dysgu i gyd-fynd â’r modd a ddefnyddid ar y pryd, neu yn ôl fel y gofynnid iddi ddysgu. Os oedd yn well gan yr athro neu’r goruchwylydd ddefnyddio’r modd ysgrifennu, byddai’r fyfyrwraig yn troi i ddefnyddio’r modd hwnnw wrth ateb ac wrth geisio dysgu.

Mae aml-foddau astudio’n rhoi’r dewis i chi ddefnyddio dau neu dri neu bedwar modd dysgu wrth ryngweithio â phobl eraill. Mae rhai unigolion wedi cyfaddef eu bod, wrth geisio gwylltio rhywun yn fwriadol, yn mynnu defnyddio modd dysgu sy’n wahanol i fodd dysgu’r sawl y maent yn gweithio gydag ef/hi ar y pryd. Er enghraifft, hwyrach y gwnânt ofyn am dystiolaeth ysgrifenedig mewn perthynas â dadl benodol, gan wybod bod yn llawer gwell gan y person arall ddefnyddio gwybodaeth lafar yn unig! Agwedd fwy cadarnhaol ar y mater yw bod y rhai sydd â nifer o hoff ddulliau astudio’n gallu amrywio eu dulliau i gyd-fynd â moddau astudio’r bobl allweddol sydd o’u cwmpas.

Os oes gennych ddau hoff ddull cyfartal, cofiwch ddarllen y manylion perthnasol sydd yn yr holiadur am y ddau fodd astudio. Os oes gennych dri hoff ddull astudio, darllenwch y tair rhestr berthnasol, a gwneud yr un fath os oes gennych bedwar hoff ddull astudio. Mewn gair, bydd angen i chi ddarllen dwy neu dair neu bedair o’r rhestrau. Un pwt diddorol o wybodaeth a gafwyd gan unigolion a oedd â nifer o hoff ddulliau astudio yw eu bod yn defnyddio mwy nag un dull er mwyn dysgu a chyfathrebu. Byddent yn teimlo’n ansicr wth ddefnyddio un dull yn unig. Ar y llaw arall, gwelwyd bod pobl sydd â dim ond un hoff ddull astudio’n llwyddo i ddeall pethau drwy ddefnyddio‘r rhestr o strategaethau sy’n cyd-fynd â’u hunig hoff ddull astudio.

Sylwyd hefyd ar rai gwahaniaethau ymysg pobl sydd â nifer o hoff ddulliau astudio, yn enwedig rhwng y rhai a ddewisodd lai nag 20 o ddewisiadau a’r rhai a ddewisodd fwy na hynny. Os gwnaethoch ddewis llai nag 20 o’r dewisiadau yn yr holiadur, hwyrach yr hoffech i’ch sgôr uchaf gynrychioli eich prif ddull astudio, a bod yn unig ddull astudio i chi bron. Yn ôl pob tebyg, rydych yn fwy pendant na’r rhai a ddewisodd 20 neu ragor o’r dewisiadau.