Os yw’n llawer gwell gennych ddefnyddio dulliau cinesthetig i ddysgu, dylech ddefnyddio’r cyfan neu rai o’r dulliau canlynol:
Mewnbwn
er mwyn derbyn yr wybodaeth
- defnyddio eich holl synhwyrau – gweld, cyffwrdd, blasu, arogli, clywed
- labordai
- teithiau maes
- cylchdeithiau maes
- enghreifftiau o egwyddorion
- darlithwyr sy’n defnyddio enghreifftiau wedi’u codi o fywyd pob dydd
- rhoi cysyniadau/egwyddorion ac ati ar waith
- dysgu drwy brofiad ymarferol
- dysgu drwy roi cynnig a methu
- casgliadau o wahanol fathau o greigiau, planhigion, cregyn, gweiriau ac ati
- enghreifftiau, samplau, ffotograffau
- rysetiau – atebion i broblemau, papurau arholiad blaenorol
SWOT
er mwyn gwneud pecyn hawdd ei ddysgu
- Efallai bod nodiadau eich darlithoedd yn wael, am nad oedd y pynciau’n rhai ‘go iawn’ neu’n ‘berthnasol’.
- Byddwch yn cofio’r pethau ‘go iawn’ a ddigwyddodd.
- Rhoi digonedd o enghreifftiau yn eich crynodeb. Defnyddio astudiaethau achos a chymwysiadau i’ch helpu i ddeall egwyddorion a chysyniadau haniaethol.
- Trafod eich nodiadau gyda rhywun sy’n hoffi dysgu drwy ddulliau cinesthetig
- Defnyddio lluniau a ffotograffau sy’n egluro syniad
- Mynd yn ôl i’r labordy neu ddefnyddio llawlyfr y labordy
- Dwyn i gof arbrofion, teithiau maes ac ati
- Newid eich ‘nodiadau’ yn becyn hawdd ei ddysgu, drwy grynhoi’r nodiadau a’u lleihau 3:1.
Allbwn
er mwyn gwneud yn dda yn yr arholiad
- ymarfer drwy ysgrifennu atebion a pharagraffau
- ail-greu amodau arholiad yn eich ystafell eich hun