Os yw’n llawer gwell gennych ddefnyddio dulliau clywedol i ddysgu, dylech ddefnyddio’r cyfan neu rai o’r dulliau canlynol
Mewnbwn
er mwyn derbyn yr wybodaeth
- mynychu dosbarthiadau
- mynd i drafodaethau a sesiynau tiwtora
- trafod pynciau gydag eraill
- trafod pynciau gyda’ch athrawon
- egluro syniadau newydd i bobl eraill
- defnyddio recordydd tâp
- cofio’r enghreifftiau, y straeon a’r jôcs diddorol
- disgrifio’r deunydd taflunio, y lluniau a’r adnoddau gweledol eraill i rywun nad oedd yno
- gadael llefydd gwag yn eich nodiadau er mwyn eu dwyn i gof yn nes ymlaen, a llenwi’r llefydd gwag bryd hynny
SWOT
er mwyn gwneud pecyn hawdd ei ddysgu
- Efallai bod eich nodiadau’n rhai gwael am bod yn well gennych wrando. Bydd gofyn i chi’n gyntaf ychwanegu at eich nodiadau, drwy siarad gydag eraill a chasglu nodiadau o lyfrau cwrs.
- recordio eich nodiadau cryno ar dapiau, a gwrando arnynt.
- gofyn i bobl eraill wrando ar eich dehongliad o’r pwnc.
- darllen eich nodiadau cryno’n uchel.
- egluro eich nodiadau i rywun y mae’n well ganddo ddysgu’n glywedol.
Allbwn
er mwyn gwneud yn dda yn yr arholiad
- dychmygu eich bod yn siarad gyda’r arholwr
- gwrando ar y ‘lleisiau’ hyn a’u hysgrifennu ar bapur
- treulio amser mewn mannau tawel, a dwyn y syniadau i gof
- ymarfer ysgrifennu atebion i hen gwestiynau arholiad
- llefaru eich atebion, neu eu dweud yn eich pen