The VARK Questionnaire (Welsh)

Sut byddaf i’n dysgu orau?

Translated into Welsh in 2007 by Gareth Catherwood, Coleg Meirion-Dwyfor

Dewiswch yr ateb sy’n egluro beth sydd orau gennych chi, a rhowch gylch o gwmpas y llythyren sydd gyferbyn â’ch ateb. Croeso i chi roi cylch o gwmpas mwy nag un ateb os yw hynny’n addas, a pheidiwch ag ateb cwestiynau sy’n amherthnasol i’ch sefyllfa chi.

Rydych am goginio pryd arbennig i’ch teulu. P’run o’r rhain fyddech yn ei wneud?
Rwy’n hoffi gwefannau sydd â
Ydi’n well gennych chi athro neu gyflwynydd sy’n defnyddio:
Ceisiwch gofio adeg pan wnaethoch ddysgu sut i wneud rhywbeth newydd. Peidiwch â dewis medr gorfforol e.e. reidio beic. Y ffordd orau y gwnaethoch ddysgu gwneud y peth oedd:
Rydych ar fin prynu camera digidol neu ffôn symudol. Ar wahân i’r pris, beth fyddai’n dylanwadu fwyaf ar eich penderfyniad?
Rydych yn cynllunio gwyliau i griw o’ch ffrindiau. I gael eu barn ar eich cynlluniau, p’run o’r rhain fyddech yn ei wneud?
Rydych newydd gwblhau cystadleuaeth neu brawf, a byddech yn hoffi cael sylwadau ar eich perfformiad. Byddech yn dewis:
Rydych yn defnyddio llyfr, crynoddisg neu wefan i ddysgu sut i dynnu lluniau gyda’ch camera digidol newydd. P’run o’r rhain hoffech chi ei gael?
Mae gennych broblem gyda’ch pen-glin. Byddai’n well gennych petai’r meddyg yn:
Mae criw o ymwelwyr yn awyddus i wybod am barciau neu warchodfeydd natur yn eich ardal. P’run o’r rhain fyddech yn ei wneud?
Ar wahân i’r pris, beth fyddai’n dylanwadu fwyaf ar eich penderfyniad i brynu llyfr ffeithiol newydd?
Mae arnoch eisiau dewis bwyd mewn lle bwyta neu gaffi. P’run o’r rhain fyddech yn ei wneud?
Mae gan wefan fideo yn dangos sut i wneud graff arbennig. Mae person yn siarad, mae rhai rhestrau a geiriau sy'n disgrifio beth i'w wneud a rhai diagramau. Byddech yn dysgu y rhan fwyaf o:
Rydych yn ceisio helpu rhywun sydd ar ei ffordd i faes awyr, canol y dref neu orsaf drenau. P’run o’r rhain fyddech yn ei wneud?
Mae disgwyl i chi roi anerchiad mewn cynhadledd neu ddigwyddiad arbennig. P’run o’r rhain fyddech yn ei wneud?
Rydych yn awyddus i feistroli rhaglen, medr neu gêm newydd ar eich cyfrifiadur. Byddech yn: